Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw Atyniadau

Potter at work in Nantgarw China Works

Disgrifiad

Mae Amgueddfa Grochenwaith Nantgarw yn swatio ym mhentref Nantgarw. Yn yr amgueddfa gallwch weld casgliad o Lestri Nantgarw a darganfod sut y gwnaed y llestri enwog. Gallwch hefyd weld odyn botel, a dysgu hanes Camlas Sir Forgannwg a hanes y dyn a gynhyrchodd y crochenwaith enwog hwn, William Billingsley.

Crochendy Nantgarw

Mae crochendy sy’n dal i gynhyrchu ar y safle, a gallwch chi weld y crochenwr wrth ei waith. Bydd yntau’n barod i gael sgwrs gydag ymwelwyr am y broses gynhyrchu. Bydd hefyd yn bosibl i chi roi cynnig ar lunio’ch llestr eich hun, a chael ei ffwrndanio yn Nantgarw.

Bydd staff â chymwysterau llawn yn darparu rhaglen addysgu sylweddol sy’n addas i bobl o bob gallu. Mae manylion a map ar y wefan.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma