Rumble in the Jungle
- Rumble in the Jungle Playcentre
- Unit 5, Cambrian Industrial Park, Clydach Vale
- Tonypandy
- Rhondda Cynon taf
- CF40 2XX
- Ffôn
- 01443 433033
- Gweld map
- info@rumbleinthejungleplaycentre.co.uk
- www.rumbleinthejungleplaycentre.co.uk
Disgrifiad
Dewch â’ch plant am ddiwrnod o hwyl a sbri yng nghanolfan chwarae Rumble in the Jungle. Does dim man chwarae dan do i’w churo yn Rhondda Cynon Taf!
Does dim ots beth yw’r tywydd – caiff eich plant ddiwrnod i’r Brenin yn ein 10,000 o droedfeddi sgwâr o gyfleusterau chwarae. Gyda help ein criw cyfeillgar ni, bydd hi’n ddiwrnod i’w gofio!
Dyma rai o’r cyfleusterau:
· Ffrâm chwarae fawr 3-lefel
· Man neilltuol i blant bach, gyda phwll peli anferth
· Arena pêl-droed / pêl-fasged
· Tair ystafell barti wych ar gyfer eich holl anghenion parti penblwydd.
· Caffi sy’n paratoi bwyd poeth ac oer, byrbrydau, a diodydd, drwy’r dydd.
Man cyffyrddus lle gall yr oedolion ymlacio, wrth i’r plant fwynhau mâs draw mewn amgylchedd chwarae diogel, glân, a chyffrous.
Rydym ni’n croesawu plant o’u geni hyd at 12 oed. Mynediad AM DDIM i oedolion ac i fabanod dan flwydd.
Ydy’r plantos yn eich gyrru chi’n benwan? Dewch i Rumble in the Jungle a gadael iddyn nhw fynd yn wyllt
- Mynediad
Bydd hi’n ddigion hawdd i chi ddod o hyd i ni. Taith 15 munud ydyn ni o Gyffordd 34 ar y M4. Dilynwch yr A4119 i Donypandy, heibio‘r goleuadau traffig ger tai Barrett newydd Parc Gellifaelog. Dilynwch yr arwyddion i Gwm Clydach a swyddfeydd y Cyngor. Ar Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa’r Cambrian mae Rumble in the Jungle, ddrws nesaf i ddepo casglu Swyddfa’r Post.
>
View Larger Map