Chwilio’r awyr agored
Dilynwch y llwybrau wedi’u marcio a chyrsiau cyfeiriannu ar hyd nentydd a llynnoedd neu i fyny’r llethrau i olygfeydd panoramig. Mae’r coedwigoedd wedi adfywio ac mae llawer o fywyd gwyllt o gwmpas. Mae blodau gwyllt yn rhoi lliw i’r llechweddau yn y gwanwyn a’r haf. Gan goroni’r cwm rhewlifol yng ngorllewin y parc, mae’r tywydd yn chwyrlïo o Fôr Iwerydd a llwybrau’r awyrennau’n dilyn cromlin y byd i ddiflannu y tu ôl i’r copa. Mae’r Afon Dâr yn byrlymu ac yn ymdroelli o’r mynyddoedd yng ngogledd-orllewin Cwm Cynon trwy gwm o goed derw, bedw a gwern.
