Gwersylla a Charafanio
Meysydd gwersylla a lleiniau carafán tair seren.
Wrth ochr y ganolfan breswyl mae Parc Carafannau a Gwersylla. Mae’r maes yn un bach twt, gwastad gyda gwasanaethau da i 25 o garafannau a 10 o bebyll. Mae cyswllt trydan ar gael ar bob llain. Mae’r lle wedi cael gwobr ‘3 seren’ gan Croeso Cymru, ac mae mewn man perffaith ar gyfer chwilota’r atyniadau’r ardal.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ misol, cliciwch yma.
Gwybodaeth Bellach
Gall ymwelwyr aros yn ein Canolfan Wledig Breswyl ‘3 seren’. Mae i bob ystafell ei hystafell ymolchi ei hun, teledu lliw a chyfleusterau ar gyfer gwneud te a choffi. Mae gwely dwbl, gwelyau bync a chot ar gael yn yr ystafelloedd o faint da i deuluoedd. Gellir addasu pob ystafell arall ar gyfer hyd at bedwar o bobl sy’n golygu eu bod yn berffaith ar gyfer grwpiau