Aberpennar
Yr un fath â chymunedau eraill y cymoedd, tyfu yn sgîl llewyrch y diwydiant mwyngloddio yn y 19eg ganrif wnaeth Aberpennar, hithau, gan dyfu’n dref sylweddol cyn pen fawr o dro.
Oxford Street yw canolbwynt y siopau yn Aberpennar, stryd sy’n rhedeg yn gyfochrog ag Afon Cynon wrth droed llechwedd serth, yn frith o dai teras canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae cyflenwad hael o siopau cig,
poptai a siopau llysiau traddodiadol, yn ogystal â banciau, asiantau teithio a fferyllwyr yma a chanlyniad gwaith adnewyddu’n ddiweddar yw fod Oxford Street yn gasgliad o adeiladau mewn lliwiau golau sy’n ymdoddi’n ddeniadol I olygfeydd y llethrau serth uwchlaw’r dref.
Guto Nyth Brân a Nos Galan
Hanner ffordd ar hyd Oxford Street mae cerflun i goffáu’r rhedwr enwog, Guto Nyth Brân, a gafodd ei gladdu ym mynwent Llanwynno sy ychydig dros gopa'r mynydd. Rydyn ni’n cofio Guto bob Nos Galan trwy gynnal rasys trwy strydoedd Aberpennar unwaith bod rhedwr dethol wedi rhedeg y tair milltir o lan bedd Guto dan olau’r dorch y bydd yn ei dal uwch ei ysgwydd.
Canolfan Bowlio Dan Do’r dref ydy canolbwynt gweithgareddau hamdden Aberpennar.
Mae ynddi hi neuadd fowlio 8 lôn o safon rhyngwladol ac mae hi’n dal cysylltiad â chlybiau bowlio eraill ledled y byd.Yn ogystal â hynny, mae yma arlwy o fwyd da mewn
awyrgylch hamddenol, braf. Ochr draw i’r afon, o gyrraedd prysurdeb Oxford Street, mae llecyn o barc a golygfeydd hyfryd. O flaen Eglwys y Santes Fererid mae gardd fechan ac ynddi balmant mosaïg a chofeb i byllau glo’r ardal ac arni’r arysgrif "
Ewch am dro byr drwy’r coed a thoc y dewch chi i’r parc, cartref Clwb Rygbi Aberpennar, un o’r hyna yng Nghymru ac yn mynd dan yr enw ‘Yr Hen Ffyrm’.Yn uwch i fyny ar ochrau’r llethrau mae bythynnod cadwedig, cain Cwmpennar, pentrefan bychan, o olwg byd diwydiant a’r dref, lle mae amser wedi peidio â symud.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.

Dewch am dro drwy hanes Aberpennar ar Lwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf. Cliciwch yma