Y Porth
Y Porth yw’r fynedfa i’r Rhondda.
Mae’n sefyll lle mae’r Rhondda Fawr a’r Rhondda Fach yn cyfarfod.
Y Porth yw cartref Welsh Hills Works - sef cartref y cwmni diod pop Corona am flynyddoedd lawer. Y Pop Factory yw ei enw bellach ac mae’n gartref i bop (a roc) o wahanol fath.
Ar gyrion y dref mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda sy’n dathlu hanes y pyllau glo a chymdeithasau glofaol y Cymoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’, cliciwch yma.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy am hanes Y Porth drwy ddilyn Llwybr Treftadaeth Rhondda Cynon Taf.