Corau, Bandiau Pres a Chymdeithasau Corawl
Cymdeithas Gorawl Treorci a’r Cylch
Pwy ydyn nhw?
Ers eu sefydlu ym 1965, mae’r 30 o aelodau Cymdeithas Gorawl Treorci yn parhau’n weithgar yn y sîn gerddorol leol. Maent yn perfformio’n rheolaidd ledled y de, yn aml yn canu mewn partneriaeth â chymdeithasau lleol eraill.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Ydynt. Nos Lun 7.30pm yn Ysgol Gynradd Treorci, Glyncoli Road, Treorci. Nos Wener 7.30pm yng Nghapel Bethlehem, Treorci.
Côr Meibion Treorci
Pwy ydyn nhw?
Sefydlwyd Côr Meibion byd-enwog Treorci yn wreiddiol ym 1883 a bu’n canu i’r Frenhines Fictoria yn Windsor ym 1895. Fe’i ail-ffurfiwyd ar ôl yr 2il Ryfel Byd ym mis Hydref 1946 o dan arweiniad John Haydn Davies. Mae’n elusen gofrestredig sy’n parhau i berfformio oddeutu 30 o gyngherddau’r flwyddyn a chafodd sylw cenedlaethol ar ôl ennill y mwyaf o wobrau cyntaf yn hanes Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’n ymddangos ar y teledu a’r radio’n gyson ac wedi recordio mwy na 50 o recordiau a chryno ddisgiau, y mwyafrif ar gyfer EMI. Mae’r côr wedi teithio yn yr Unol Daleithiau, Canada ac Awstralia sawl tro a Chôr Meibion Treorci oedd y côr cyntaf o Gymru i ganu yn Nhŷ Opera Sydney, lle gwerthwyd y tocynnau i gyd ar dri achlysur gwahanol. Mae wedi perfformio gyda Syr Tom Jones, y Fonesig Shirley Bassey, y Fonesig Julie Andrews, Ella Fitzgerald, Burt Bacharach, Kathryn Jenkins, Bryn Terfel, Aled Jones, Syr Harry Secombe ac wedi ymddangos mewn Sioe Royal Variety llawn sêr, yn ogystal â pherfformio’n gyson cyn gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm y Mileniwm.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Ydynt. Nos Fawrth a nos Iau 7pm-9pm, Ysgol Gynradd Treorci, Glyncoli Road, Treorci
Enw a Rhif Cyswllt
Frederick O’Brien, Ysgrifennydd Mygedol 01443 422935
Ebost / Gwefan
Côr Merched Tonyrefail
Pwy ydyn nhw?
Sefydlwyd Côr Merched Tonyrefail ym 1989 fel Cantorion Tref-y-Rhyg, cyn newid eu henw yn 2004 o dan arweiniad Geraint Bessant. Mae’r côr 24 o ferched yn canu cerddoriaeth o’r oes glasurol i’r cyfnod modern – o Cherubini i Robbie Williams.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Ydynt. Nos Fawrth 7.00pm i 9pm yng Nghapel Salem, Tonyrefail
Enw a Rhif Cyswllt
Geraint Bessant: geraint.bessant@cl-uk.com