Corau, Bandiau Pres a Chymdeithasau Corawl

Côr Meibion Cwm Rhondda

Pwy ydyn nhw?

Sefydlwyd y Côr ym 1999 dan arweiniad Neil Topping ac mae wedi bod yn perfformio amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o gerddoriaeth corau meibion traddodiadol, fel corysau opera, emynau, caneuon gwerin, caneuon ysbrydol ac ati i faledau modern poblogaidd a sioeau cerdd y West End, sy’n golygu bod rhywbeth at ddant pawb.

Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?

Ydynt. Nos Fercher a nos Wener 7.30pm i 9pm yn Ysgol Gynradd Ton Pentre, Stryd Bailey, Ton Pentre

Enw a Rhif Cyswllt

Mr Baber: 07919 803907

Ebost / Gwefan

www.cwmrhondda.org

Cantorion Clwb Rygbi Llanharan

Pwy ydyn nhw?

Sefydlwyd y côr meibion ym 1966 a chredir mai dyma’r côr hynaf o’i fath yng Nghymru. Er bod llai o aelodau bellach, mae’n parhau i berfformio’n lleol a chodi arian at elusennau amrywiol.

Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?

Ydynt. Nos Fawrth 7.30pm i 9.30pm yng Nghlwb Rygbi Llanharan.

Enw a Rhif Cyswllt

Mr E Evans: 01443 226554

Ebost / Gwefan

www.llanharanrfc.org.uk

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma