Corau, Bandiau Pres a Chymdeithasau Corawl
Côr Meibion Abercynon
Pwy ydyn nhw?
Sefydlwyd Côr Meibion Abercynon yn ystod 1970 yn hen Westy’r Junction yn Abercynon. Roedd 20 aelod yn y côr i ddechrau ac mae pedwar o’r aelodau gwreiddiol yn canu hyd heddiw. Mae’r côr wedi cefnogi elusennau o’r cychwyn cyntaf ac wedi perfformio mewn cyngherddau i godi arian i Dŷ Hafan, elusennau canser amrywiol a chyrff lleol a chenedlaethol sy’n gwneud gwaith elusennol. Mae’r côr wedi teithio yn Llydaw, Iwerddon, Canada a’r Alban. Bu aelodau o’r côr yn perfformio yn y cyngerdd mil o leisiau yn yr Albert Hall yn Llundain a gwasanaethau coffa yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Nos Sul 7pm-8.30pm yn Hen Neuadd y Sgowtiaid, North Street, Abercynon; nos Fercher 7pm-8.30pm yng Nghapel Moriah, Abercynon.
Enw a Rhif Cyswllt
Huw Williams – ebost: huw@abercynonchoir.co.uk
Ebost / Gwefan
Côr Meibion Morlais
Pwy ydyn nhw?
Sefydlwyd y Côr ym mis Chwefror 1928 pan gynhaliodd Mr Alfred Morgan noswaith o adloniant yng Nghapel Ebenezer, Tylorstown, gyda dwsin o gantorion o’r enw’r Mustard Club. Erbyn 1931 roedd y Côr yn ennill gwobrau mewn Eisteddfodau ac roedd galw mawr amdanynt ledled Cymru a de Lloegr. Yna, ym 1932, dechreuodd y Côr gyfres o Gyngherddau Blynyddol yng Nglynrhedynog gyda phrif artistiaid o safon ryngwladol - y Fonesig Gwyneth Jones, Heddle Nash a Stuart Burrows. Mae’r côr wedi teithio dramor a chodi arian i elusennau amrywiol.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Ydynt, nos Fawrth a nos Wener 7.30pm-9pm yn Neuadd Morlais, Glynrhedynog
Enw a Rhif Cyswllt
Byron Young: 01443 685095
Ebost / Gwefan