Corau, Bandiau Pres a Chymdeithasau Corawl
Côr Meibion Pendyrus
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Mae Côr Meibion Pendyrus wedi perfformio yn yr holl brif leoliadau ledled Prydain, ynghyd â theithio dramor droeon. Yn gyn bencampwyr cystadlaethau, nid yw’r côr wedi cystadlu ers 1968. O dan arweiniad y diweddar Glynne Jones MBE, cadwodd y côr ei stoc draddodiadol o ganeuon, gan ennill enw da ar yr un pryd am ehangu ei orwelion. Archwiliodd gerddoriaeth eglwys Eidalaidd y 16eg ganrif a darnau llai adnabyddus gan gyfansoddwyr clasurol, ac enillodd ei blwyf am berfformio cyfansoddiadau Prydeinig, Ewropeaidd ac Americanaidd cyfoes. Comisiynodd waith hefyd gan sawl cyfansoddwr o Gymru. Mae’r stoc amrywiol hwn yn golygu bod y côr wedi cael sawl cyfle i berfformio â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gydag unawdwyr rhyngwladol a dan arweiniad arweinyddion nodedig. Dyma’r unig gôr o Gymru i gael ei wahodd i’r Ŵyl Aldeburgh fawreddog. Ers ei gyngerdd tramor cyntaf ym 1965, mae Côr Meibion Pendyrus wedi teithio yng Nghanada, America, Awstralia a Seland Newydd. Mae hefyd wedi perfformio ym Mrwsel, St Petersburg a Moscow.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Ydynt. Nos Sul 7pm i 9pm; nos Fercher 7.30pm i 9.30pm yng Nghanolfan Chwaraeon Rhondda Fach, Tylorstown.
Enw a Rhif Cyswllt
John Lewis: 01443 730383
Ebost / Gwefan
Côr Meibion Pontypridd
Pwy ydyn nhw?
Sefydlwyd y côr ym 1949 ac mae wedi bod yn hynod o lwyddiannus am bron i hanner canrif gan deithio’n helaeth a gweithio gydag enwogion fel Stuart Burrows, Syr Harry Secombe a Syr Geraint Evans. Mae’r côr hefyd wedi mwynhau cyfeillgarwch parhaus â phobl Liederkranz Oberensingen yn yr Almaen. Ym 1974 enillodd y côr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Ers hynny maent wedi teithio o gwmpas Gwlad Pwyl, Gogledd Iwerddon a’r Unol Daleithiau, ac mae’n parhau i ymweld â’r Almaen yn rheolaidd.
Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?
Ydynt. Nos Fawrth a nos Wener 7.30pm i 9.30pm yn Neuadd Tabor, Stryd Vaughan, Pontypridd
Enw a Rhif Cyswllt
Philip Ashford: 01443 402680
Ebost / Gwefan