Corau, Bandiau Pres a Chymdeithasau Corawl

Clwb Jazz y Rhondda

Pwy ydyn nhw?

Sefydlwyd Clwb Jazz y Rhondda ym 1987 a hwn oedd y cyntaf o’i fath yn y cymoedd. Roedd wedi’i leoli yn Ffreutur Ffatri Polikoffs ar y cychwyn, a bellach mae’r clwb yn cyfarfod yn rheolaidd yn lolfa Theatr y Parc a’r Dâr, Treorci. Yn eu cyfarfodydd mae’r clwb yn croesawu amrywiaeth eang o fandiau mawr a pherfformwyr jazz enwog, gan gynnwys Jeff Hooper, Spike Robinson, Phil Dando a Keith Little.

Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?

Ydynt.

Enw a Rhif Cyswllt

Madge Simcox: 01443 436813

Ebost / Gwefan

www.treorchy.net/rhonddajazz/

Ebost jazz@treorchy.co.uk

Cerddorfa Symffoni’r Rhondda

Pwy ydyn nhw?

Cerddorfa Symffoni’r Rhondda yw un o’r cerddorfeydd amatur hynaf yng Nghymru. Fe’i sefydlwyd yn Nhonypandy ym 1968 a chynhaliodd ei chyngerdd cyntaf ym 1970. Mae’r Gerddorfa wedi ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Fodd bynnag, heddiw mae’n denu cerddorion o bob rhan o’r de ac yn cynnwys dros 70 o berfformwyr yn aml. Mae symffonïau rhagorol y 19eg a’r 20fed ganrif yn rhan ganolog o’i stoc. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi perfformio symffonïau gan Beethoven, Borodin, Brahms a Dvorak. Yn ddiweddar, rhoddodd un o’r perfformiadau cyntaf yng Nghymru o’r Third Symphony gan Elgar, wedi’i gwblhau gan Payne. Mae ei chyngherddau diweddar yn cynnwys concerti gan Bach, Gershwin a Ravel. Mae unawdwyr sydd wedi perfformio concerti yn cynnwys Jack Brymer a Martin Jones. Mae’r gerddorfa wedi gweithio gyda Dennis O’Neill a Bryn Terfel, ynghyd â theithio yn Llydaw.

Ymarferion ar Agor i’r Cyhoedd?

Ydynt. Ysgol Gyfun y Pant, Pont-y-clun. Nos Iau 7.30-9.30pm

Enw a Rhif Cyswllt

Mark Wells: markwells22@yahoo.co.uk

Ebost / Gwefan

www.rhonddasymphonyorchestra.org.uk

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma