Corau, Bandiau Pres a Chymdeithasau Corawl
Dychmygwch y sefyllfa. Stadiwm rygbi gorlawn, y to wedi cau a môr o goch. Mae dau dîm rygbi’n rhedeg ar y cae ac mae’r sŵn yn taranu. O’ch corun i’ch sawdl, drwy eich ysgyfaint. Yn eich byddaru.
Ac yna mae’r canu’n cychwyn.
Men of Harlech, Calon Lân, Cwm Rhondda, Hen Wlad Fy Nhadau, Delilah, The Green, Green Grass of Home.
Ydych chi erioed wedi bod am gael profiad uniongyrchol o rym cerddoriaeth draddodiadol Gymreig o’r cychwyn cyntaf? Os felly, bydd yr adran hon o ddiddordeb i chi.
Bydd yr holl gorau, bandiau a chymdeithasau a restrir yn gadael i dwristiaid ymweld â nhw yn ystod eu hymarferion. Fodd bynnag, o ran cwrteisi dylech holi’r cysylltiadau isod ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod y sesiwn ymarfer o’ch dewis ar agor i’r cyhoedd ar y pryd.