Rasys Ffordd Aberdâr
Bob blwyddyn daw rhu peiriannau beiciau modur a chyffro gwylwyr i dorri ar heddwch a llonyddwch Parc Aberdâr wrth i Rasys Ffordd Parc Aberdâr ddychwelyd.
Clwb Beiciau Modur Aberaman sy’n rhedeg y rasys ar yr unig gylchffordd rasys ym Mhrydain sydd lai na hanner milltir o ganol tref. Defnyddiwyd y gylchffordd 0.9 milltir yn gyntaf ym 1950 o flaen tyrfa o 15,000 o wylwyr. Ym 1955 hon oedd y ras beiciau modur gyntaf yn y wlad i gael ei darlledu’n fyw. Dros y blynyddoedd mae cystadleuwyr wedi cynnwys Neil Hodgson, Carl Fogarty, Robert Dunlop ac Ian Lougher.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.