Nos Galan

Yn gyflymach na bwled, mwy pwerus na thegell ager a gallu dal aderyn yn hedfan. Superman? Na, ffermwr o Lanwynno o’r enw Guto Nyth Brân.

Mae rasys enwog Nos Galan yn cofio’r rhedwr o Gymro, Guto Nyth Brân a’i fedrau athletaidd chwedlonol. Ymhlith y straeon amdano mae un yn sôn am sut y gallai ddal aderyn yn hedfan ac un arall amdano’n rhedeg i Bontypridd ac yn ôl – rhyw 7 milltir o daith – cyn i’r tegell ferwi. Bu’n cystadlu mewn llawer a herio sawl un ras yn ystod ei fywyd; ond llai a llai o gystadleuwyr oedd yn ei herio gan ei fod yn ennill bob tro. Pan oedd yn 37 oed cafodd her i redeg y 12 milltir rhwng Casnewydd ac Eglwys Bedwas, ger Caerffili yn erbyn ‘Prince’ o Fedwas. Enillodd y ras yn hawdd ond bu’r curo cefn a ddilynodd ei lwyddiant yn ormod iddo a bu farw ym mreichiau’i gariad, Siân o’r Siop. Cludwyd ei gorff i’w orffwysfa olaf, ym mynwent Eglwys Llanwynno, ger Aberpennar.

Mae mwy o wybodaeth am y rasys blynyddol a ffurflenni cais ar gael o’r wefan yma.

I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.

To find out more about events in Rhondda Cynon Taf, please click here.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma