Cerddi a Pheintiau

Llun, Cerdd, a Pheint

Mae’r pwll, y pulpud, a’r ffatri yn feithrinfa dysg a dawn yng Nghymoedd y De ers cenedlaethau. Profiad Alexander Cordell o’r Cymoedd a’i sbardunodd i ysgrifennu nofelau enwog fel Rape of the Fair Country. Ac mae llawer o’r brodorion wedi mynegi profiad y Cymoedd hefyd, mewn llên, cerdd, a llun.

Nofel Richard Llewellyn, ‘How Green Was My Valley’, yw’r stori enwocaf am y Cymoedd. Honnodd yr awdur iddo’i seilio ar ei fywyd yn y Gilfach-goch. Cafodd y stori’i throi’n ffilm gan John Ford ym 1942, gyda Maureen O’Hara fel seren. Enillodd y ffilm hon bump Oscar.

Yn ddiweddarach, mae Catrin Collier, Pontypridd, wedi gosod llyfrau megis ‘Heart of Gold’ yn Abertawe a’r Rhondda yn ogystal â’i thref enedigol.

Dyma ychydig o’r awdurdon ac artistiaid enwog eraill sy’n dod o ardal Rhondda Cynon Taf:

Ernest Zobole (1927-1999)

Arlunydd, yn aelod o Grŵp y Rhondda. Cafodd ei eni yn Ystrad Rhondda, lle roedd ei rieni wedi ymgartrefu ar ôl symud o’r Eidal. Ei bortreadau beiddgar o fywyd y Rhondda enillodd glod iddo fel un o’n harlunwyr pwysicaf.

Harri Webb (1920-1994)

Bardd a llyfrgellydd yng Nghwm Cynon. Cyhoeddodd gyfrolau o gerddi gwlatgar, ac ef a ysbrydolodd y nosweithiau Cerddi a Pheintiau poblogaidd. Cyfansoddai’i gerddi mewn iaith syml er mwyn cyfleu’i neges i gynifer o bobl ag y gallai. Cuddiai’i ddifriwch allanol ddigon o ddwyster ar adegau.

Gwyn Thomas (1913 – 81)

Awdur nofelau, storïau byrion, a dramâu. Brodor o’r Porth, Rhondda, y plentyn ifancaf mewn teulu glofaol. Bu’i dad yn ddi-waith yn aml. Cyhoeddodd Gwyn y nofel gyntaf o 15, ‘The Dark Philosophers’, yn 1946. Ysgrifennodd dair drama a hunangofiant hefyd.

Ron Berry (1920 – 97)

Nofelydd, wedi’i eni ym Mlaen-Cwm, Rhondda Fawr. Cafodd ei nofel gyntaf, Hunters and Hunted, ei chyhoeddi ym 1960. Cyhoeddodd Ron bump yn rhagor o nofelau, yn ogystal â storïau byrion, a dramâu i’r radio a’r teledu.

Alun Lewis (1915-44)

Bardd, ac awdur storïau byrion. Yn frodor o Gwmaman, Cwm Cynon. Am gwta bedair mlynedd y bu Alun Lewis yn llygad y cyhoedd cyn cael ei ladd yng ngwlad Bwrma, yn 28 oed. Dim ond pedair gyfrol a gyhoeddodd Alun Lewis, yn cynnwys 95 o gerddi a 25 o storïau. Er hyn mae sawl beirniad wedi datgan taw ef oedd yr olaf o’r beirdd Rhamantaidd mawr yn Saesneg.

Rhydwen Williams (1916- 97)

Bardd a nofelydd, wedi’i eni yn y Pentre Rhondda. Enillodd Rhydwen y Goron yn y Genedlaethol ym 1946 a 1964. Cyhoeddodd yn helaeth yn y ddwy iaith, gan gynnwys wyth cyfrol o gerddi a nifer o nofelau.

Robert Thomas (1926 – 1999)

Cerflunydd, wedi’i eni yng Nghwm-parc. Creodd ryw 50 o weithiau. Y gwaith a enillodd y clod mwyaf iddo, mae’n debyg, yw’r cerflun o löwr a’i deulu yn Nhonypandy, yn agos i le bu terfysgoedd enwog 1910.

Elaine Morgan (1920 - )

Dramodydd teledu ac awdures, wedi’i geni ym Mhontypridd. Mae hi wedi mabwysiadu rhai o hoff nofelau’r Cymry ar gyfer y sgrîn fach, gan gynnwys ‘How Green Was My Valley’. Hi a addasodd ran fwyaf penodau ‘Dr. Finlay’s Casebook’ hefyd. Cyhoeddodd nifer o nofelau, yn ogystal â phoblogeiddio’r ddamcaniaeth fod hynafiaid y ddynolryw wedi treulio cyfnodau maith yn byw ar y glannau.

Nicholas Evans (1907-2004)

Arlunydd, wedi’i eni yn Aberdâr. Roedd Nicholas Evans wedi cyrraedd ei chwedegau cyn dechrau arlunio. Roedd e’n 71 oed cyn dangos ei waith mewn arddangosfa. Enillodd glod fel arlunydd a bortreadai byd pyllau glo’r De mewn ffordd ysgytwol a newydd. Mae orielau pwysig ar draws y byd wedi prynu’i luniau pwerus o lowyr Cymru.

Hawlfraint 2008 CBS RhCT - 1024x768 ydy'r manylder gorau ar gyfer y safle yma