Y Colisëwm
Y Colisëwm
Amrywiaeth anferthol o adloniant!
Mae’r adeilad unigryw a thrawiadol hwn, a adeiladwyd ym 1937, yn swatio ar stryd breswyl yn Aberdâr. Mae’r awditoriwm yn wahanol iawn, gyda chnepynnau acwstig a murluniau diddorol. Mae ei rhaglen o ddigwyddiadau yn cynnwys drama, bale, opera, comedi, adloniant ysgafn, cerddoriaeth, digwyddiadau i blant, digwyddiadau addysgol, a chynyrchiadau gan grwpiau cymunedol lleol ac ysgolion.
Y Colisëwm
Ffordd Mount Pleasant
Trecynon
Aberdâr
CF44 8NG
Ffôn: 01685 881188
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.