mythau a chwedlau
Mae gan ein hardal draddodiad hir o chwedleua ac rydyn ni’n falch ohono. Dyma rai o’n mythau a chwedleuon.
Marchogion Cwsg a Thrysor Cudd?
Mae trysor gwerthfawr wedi’i guddio dan y ddaear yng Nghraig y ddinas, y graig enfawr yng nghornel mwyaf gorllewinol Rhondda Cynon Taf. Caiff y trysor ei warchod gan gwmni o farchogion sydd wedi cysgu yn y siambr am ganrifoedd. Yn ôl hanesion hynafol, roedd y marchogion yn ddilynwyr i naill ai’r Brenin Arthur neu Owain Lawgoch, y rhyfelwr o Gymro o’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Eu tynged yw cysgu hyd nes y bydd eu gwlad mewn perygl, pryd y byddan nhw’n codi eto ac arwain eu pobl i fuddugoliaeth.
Bedd Brenin
Ar gopa gwyntog Mynydd Maendy i’r de o Donyrefail mae yna gladdfa y dywedir ei bod yn fedd y pennaeth a adwaenwyd yn nes ymlaen fel y Brenin Arthur. Llwyddodd yr arweinydd dewr hwn i atal yr Eingl-Sacsoniaid rhag ymestyn ar draws Prydain am genhedlaeth, gyda’i fuddugoliaeth yng Nghaerfaddon yn A.D 513 yn goron ar y cyfan. Roedd sawl chwedl yn gysylltiedig â’r arwr dienw, a dyma ddechrau traddodiad y Brenin Arthur, yng Nghymru yn gyntaf ac yn llenyddiaeth pob gwlad yn Ewrop bron wedi hynny.
Morwyn y Llyn
Llyn-y-forwyn yng Nglynrhedynog yw cartref yr hudoles Nelferch, a briododd feidrolyn. Pan dorrodd ei addewid na fyddai’n gofyn iddi am ei gorffennol gadawodd ef heb geiniog ac wedi heneiddio llawer mwy nag a ddylai yn ystod eu blynyddoedd yn briod. Mae ei hysbryd yn aflonyddu ar y llyn hyd y dydd heddiw, ac mae i'w theimlo yn y caddug lle mae clogwyni serth yn cysgodi’r lan rhag pelydrau’r haul.
Rhedwr cyflymaf Cymru
Ym mynwent Llanwynno ar ben y mynydd y gorwedd bedd y rhedwr chwedlonol Guto Nyth Brân. Gallai Guto redeg o fferm y teulu yn Llwyncelyn, y Porth, i Bontypridd ac yn ôl cyn i’r tegell ferwi ar gyfer te, ac yn ystod ei fywyd enillodd sawl mil gini mewn gwobrau yn rhedeg yn erbyn unrhyw un a’i heriai. Bu farw’n 37 oed ym 1737 ar ôl curo cystadleuydd o’r enw Prince trwy redeg 13 milltir mewn 53 munud. Bu farw wedi i’w gariad, Siân, ei guro ar ei gefn!
Noethni ac Amlosgi
Roedd y Dr William Price yn achosi sgandal i bobl Llantrisant oherwydd ei arfer o fynd am dro yn gwbl noeth. Roedd mewn gwth o oedran yn priodi ac er ei fod dros ei 80 oed, daeth yn dad i blentyn a enwyd yn Iesu Grist. Pan fu farw’r plentyn, amlosgodd y corff yn gyhoeddus ac wedyn enillodd yr achos llys a ddilynodd, gan sefydlu bod amlosgi yn gyfreithiol yn y Deyrnas Unedig.
I gael rhagor o wybodaeth am Gyrchfan Rhondda Cynon Taf ac i fod yn rhan o un o’n cystadlaethau ‘tynnu o’r het’ cliciwch yma.