Canolfannau ac Atyniadau
Pontypridd
Saif Pontypridd lle mae afonydd Rhondda a Thaf yn llifo i’w gilydd. Tref farchnad draddodiadol yw hon, yn llawn prysurdeb ac yn gadarnle diwylliant a threftadaeth i fro brydferth. Saif yng nghanol y bryniau heirdd sy’n gwneud Cymoedd y De yn lle mor neilltuol. Ymhlith trysorau pennaf Pontypridd mae harddwch Parc Coffa Rhyfel Ynysangharad a theatr ffyniannus Canolfan Gelf y Miwni. Mae’r ardal yn gartref hefyd i Deyrnas y Grogiaid ac i Brifysgol Morgannwg.

Aberdâr
Mae Aberdâr yn dref siopa brysur sy’n cyfuno hanes diddorol gyda lleoliad rhagorol a’r statws unigryw fel crud i ddiwydiant ffilm Prydain. Yn Aberdâr y mae’r adeilad hynaf yn y Fwrdeistref Sirol, sef Eglwys Sant Ioan y Bedyddiwr, Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon, Parc Aberdâr a Pharc Gwledig Cwm Dâr.

Parc Gwledig Cwm Dâr
Parc Gwledig Cwm Dâr oedd y parc gwledig cyntaf i gael ei ddatblygu ar hen dir diwydiannol. Mae’r wythïen lo yn agos iawn i’r wyneb yng Nghwm Dâr lle’r arferai 19 o byllau glo a chloddfeydd drifft rwygo’r tir. Yn dilyn dirywiad y diwydiant, gwnaed llawer o waith tirlunio ar y cwm ac erbyn heddiw mae ganddo 500 erw o dir parc ardderchog. Yn ystod misoedd yr Haf, mae teledu RSPB yn darlledu mannau Nythu Hebogiaid mae modd eu gweld o’r caffi.

Pen-rhys
Yn sefyll 1100 troedfedd uwchben lefel y môr, mae Penrhys yn un o bentrefi unigryw y Cymoedd. Serch ei bod hi’n enwog am ei hanneddau neilltuol a gafodd eu hadeiladau yn ystod 1960’au, mae golygfeydd ysblennydd ar draws Cwm Rhondda i lawr at yr arfordir a’r cerflun a’r Ffynnon sy’n gyrchfannau pererindodau blynyddol yn werth eu gweld. of years.
Parc Treftadaeth Cwm Rhondda
Ar safle Hen Lofa Lewis Merthyr, mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda yn dystiolaeth fyw o gymunedau glofaol byd-enwog Cwm Rhondda. Roedd Cwm Rhondda wedi bod o gymorth i roi pŵer i’r byd, ac mae cymeriad a diwylliant Cwm Rhondda yn dod yn fyw yn hanes ‘yr Aur Du’ trwy gyfrwng cyffrous o arddangosiadau aml-gyfrwng mewn tair hen ganolfan lô sy wedi’u hadfer a theithiau sy’n cael eu harwain gan gyn lowyr sydd wedi ymddeol o Byllau Glo’r De.

Gwesty Tŷ Newydd
Gwesty a chanddo gyfleusterau cyfoes ond sy’n cadw cymeriad yr hen blasty siorsiaidd. Mae gyda ni 28 o ystafelloedd gwely moethus. Cysylltiad band-lydan rhad ac ddim yn yr ystafelloedd i gyd. Mae gyda ni fwyty ardderchog, lle tân coed, bar croesawgar a gerddi hardd a chanddyn nhw olygfeydd godidog dros Fannau Brycheiniog a Chwm Nedd.

Gwesty’r Parc Treftadaeth
Yng nghanol Cwm Rhondda, gyferbyn â Chanolfan Parc Treftadaeth Cwm Rhondda. Mae Cwm Rhondda wedi trawsnewid o fod yn un o ganolfannau’r byd diwydiant trwm a mwyngloddio, yn fan gwyrddlas hardd. Gan barchu’i dreftadaeth draddodiadol a’i gyfuno â gobaith newydd. Dydy’r ymadrodd 'How green is my valley' erioed wedi atseinio mor wir. Mae’r Gwesty’n cyfuno cyfleusterau cyfoes ag ymdeimlad o falchder yn ei dreftadaeth a chynhesrwydd yr hen ddyddiau a fu.

Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon
Agorodd Amgueddfa ac Oriel Cwm Cynon ei drysau yn 2001 ac mae wedi’i lleoli ar gyrion Aberdâr yng nghymoedd y De. Mae’r amgueddfa a’r oriel ar safle Gwaith Haearn y Gadlys o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Teyrnas y Grogiaid
Wedi’i sefydlu ym 1965, dechrau cymharol gostyngedig fu hanes Teyrnas y Grogiaid. Yn rhan o’i ymgais gyntaf i ddianc rhag y ras lygod, camodd John Hughes i fyd crochenwaith mewn sied yn ei ardd gefn, a dyma man geni’r Grogiaid cyntaf. Bu’n creu byddin o greadigaethau hynod yn ei stiwdio dros dro – creaduriaid mytholegol o fyd chwedlau Cymru, caricaturau anifeiliaid bychain a blychau llwch, yn ogystal â’r ‘Uglies’ digamsyniol o fyd chwaraeon, ffigyrau rygbi o glai a ddaeth yn batrwm ar gyfer y dyfodol.
Amgueddfa Pontypridd
Mae Amgueddfa Pontypridd yn cyfleu hanes Pontypridd a’i phobl drwy arddangosfeydd amrywiol. Fe’i lleolir yn yr hen Gapel Bedyddwyr drws nesaf i strwythur mwyaf eiconig y dref, Pont Edward (a elwir yn Hen Bont yn lleol). Mae’r amgueddfa’n cynnwys modelau gwaith o gamlesydd, pyllau glo a rheilffyrdd lleol, archifau o ffilmiau a chofnodion llais o hanes yr ardal, gwrthrychau hanesyddol ac organ bib hyfryd sy’n cael ei defnyddio hyd heddiw ar gyfer datganiadau.